Byd Mawr Be?

Mae Byd Mawr Crwn Cyf yn gwmni di elw sydd yn ymdrechu i hybu dealltwriaeth ddiwylliannol a chodi ymwybyddiaeth ryngwladol trwy gerdd, celf a dawns o wahanol wledydd. Rydym wedi bod yn cynnal nosweithiau DJ a chlwb yn ardal Bangor ers sawl blwyddyn- yn gyntaf mewn cydweithrediad gyda Hebffinia a nawr dan ein baner ein hun - BYD MAWR - BIG WORLD. Mae rhai ohonom hefyd yn gwynebau cyfarwydd ar ol chwarae mewn partïon ar hyd a lled Cymru.

Mae ein polisi cerdd yn bwrpasol eclectig ac rydym yn cael ein hysbrydoli gan ein cefndiroedd mewn gwyliau rhydd, diwylliant dawns, gwleidyddiaeth radical ac yn enwedig WOMAD- yn ein digwyddiadau byddwch yn gallu clywed popeth o ffync, reggae, Affricanaidd, Asiaidd, Celtaidd, Lladin a’r gymysgfa fyd-eang lle mae cerddoriaeth dawns yn cwrdd â cherddoriaeth byd. Yn wahanol i lawer o glybiau rydym yn ymrwymo i gerddoriaeth byw ac mi fyddwch yn darganfod bandiau yn ein digwyddiadau fydd yn ysbrydol ac yn fywiog. Rydym eisau rhoi gwen ar eich wyneb a naid yn eich camre! Rydym yn arbenigo mewn gigs er budd achosion da.

Byd Mawr Crwn Cyf - Cwmni cyfyngedig di elw heb warant: Rhif Cwmni 5061406
Swyddfa Cofrestredig: Fron, Y Fron, caernarfon, Gwynedd, LL54 7RF